Cacen pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud fod gwŷs llys uniaith Saesneg a gafodd ei hanfon at brotestiwr yn 2012 yn brawf nad oes llawer wedi newid ers hanner canrif.

Ar achlysur torri cacen pen-blwydd y Gymdeithas yn 50 oed ar Faes yr Eisteddfod heddiw, dywedodd Bethan Williams fod y gwŷs Saesneg yn brawf fod “rhaid i bopeth newid” yn slogan mor berthnasol ag yr oedd yn 1962.

Yn 1962, fe dderbyniodd Gareth Miles wŷs Saesneg ar ôl seiclo’n anghyfreithlon ar y prom yn Aberystwyth. Roedd y digwyddiad yn un sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith.