Yr Archdderwydd Jim Parc Nest
Fe allai Iolo Morganwg fod wedi ysbrydoli’r gerdd Saesneg sy’n cael ei hystyried yn anthem answyddogol y Saeson. Dyna awgrym yr Archdderwydd presennol ar ôl traddodi ei ddarlith ar grëwr Gorsedd y Beirdd.

Roedd Iolo’n nabod William Blake, awdur ‘Jerusalem’ ond mae mwy o debygrwydd hefyd. Roedd y ddau wedi bod o flaen eu gwell. Roedden nhw ill dau’n gwrthwynebu’r frenhiniaeth, ac wedi treulio cyfnod yn byw yn Soho, meddai Jim Parc Nest.

A deuddeng mlynedd wedi i Iolo gynnal yr Orsedd gyntaf ar Fryn y Briallu yn Llundain, mae Blake yn cyfansoddi ‘Jerusalem’ – sy’n cynnwys cyfeiriad at yr union fryn hwnnw.

“Falle bod Blake wedi lleoli Jerusalem yn Primrose Hill oherwydd dylanwad Iolo,” meddai. “Yn sicr, roedden nhw’n ddau rebel.”