Nigel Roberts o gwmni Imaginet
Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am ddatblygu ochr dechnegol App yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, yn dweud fod gweithio mewn dwy iaith wedi bod o gymorth iddyn nhw wrth fynd am waith arall ar draws y byd.

Yn ôl Nigel Roberts o gwmni Imaginet, mae gweithio yn Gymraeg a Saesneg wedi rhoi profiadau iddyn nhw sydd wedi helpu wrth lunio system gwerthu tocynnau ar gyfer y cyswllt trên rhwng dinas Llundain a maes awyr Gatwick.

“Mae wedi bod yn help mawr i ni,” meddai, cyn ychwanegu fod yna 200 o bobol wedi lawrlwytho’r App am ddim yn ystod y deuddydd diwetha’.

Er hynny, fe fuon nhw’n disgwyl cyn hwyred â dydd Mercher diwetha’ cyn cael sêl bendith yr AppStore, cyn gallu cynnig y gwasanaeth i eisteddfodwyr.