Mast pwerus Orange ar y Maes
Mae signal defnyddwyr ffonau Vodafone yn wan ar y Maes, a hynny oherwydd fod y cwmni rhyngwladol wedi rhoi blaenoriaeth i ddarparu gwasanaeth i ymwelwyr Llundain dros gyfnod y Gemau Olympaidd.

“Nid yw wedi bod yn bosibl gwella darpariaeth Vodafone ar y Maes oherwydd diffyg adnoddau gan y cwmni ffôn,” meddai datganiad gan yr Eisteddfod heddiw.

Mae cwmni Orange wedi darparu mast arbennig ar y Maes, ond os oedd yna eisteddfodwyr eisiau derbyn data, e-bost a defnyddio’r we, mae’n rhaid iddyn nhw brynu amser gan un o ddau gwmni – Ethnet neu Konnect Broadband.