Mae stiwdio recordio dros-dro wedi ei chodi ar y Maes – wedi ei gwneud o wellt, pren a thywyrch.

Mae nifer o gerddorion a bandiau wedi derbyn gwahoddiad i wneud sesiynau acwstig yno yn ystod wythnos y brifwyl.

Fe fydd y caneuon sy’n cael eu recordio yno gan Hafod Mastering, ar gael i’w prynu ar-lein bron yn syth.

Dyma’r tro cynta’ i’r Eisteddfod Genedlaethol neilltuo ardal i hybu gweithgareddau amgen.