Carwyn Evans a darn o un o'i weithiau - 'Cast'
Artist sy’n hoffi gwneud datganiadau gwleidyddol am gefn gwlad trwy ei waith, sydd wedi ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain eleni.

Mae gwaith buddugol yr artist ifanc, Carwyn Evans, yn gasgliad o waith “minimalaidd crefftus”, yn ôl y dewiswyr, wedi ei wneud allan o goed a chynfonnau ŵyn, cerameg ac efydd.

Mae’r gwaith yn dangos “pwysigrwydd barddonol” peiriannau a’r bywyd amaethyddol.

Mae Carwyn Evans yn dod yn wreiddiol o Llandyfriog, Ceredigion, ond mae’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd erbyn hyn.  Ef oedd enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc y brifwyl yn 2000.