Mae Ffion Eluned Owen yn fyfyrwraig ym mhrifysgol Aberystwyth, ac yr wythnos yma yn ysgrifennu blog gwadd ar ei phrofiad o fynychu Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Ymweliad Anffodus Morus y Gwynt ac Ifan y Glaw


Cyn heddiw, ni fuaswn byth wedi cysylltu’r gair ‘diflas’ ag Eisteddfod yr Urdd, ond diflastod yn wir oedd crwydro’r maes y pnawn ‘ma wrth i’r gwynt a’r glaw wneud eu gorau glas i amharu ar bawb a phopeth. Doedd hyd yn oed wellingtons a chôt law ddim yn ddigon, ac mae’n ddyled i’n fawr i boncho arbennig S4C, freebie gorau’r wythnos o bell ffordd!
Roeddwn wedi bwriadu mynd i wario ychydig o’r student loan sydd dros ben ers ddiwedd tymor, ond fe allaf gyfri ar un law faint o stondinau y llwyddais i’w cyrraedd cyn imi gael llond bol; dwi’n gweld dim bai ar y stondinwyr druan wedi cau fyny a mynd adref ar ôl cinio! Yr unig berson bodlon ei byd a welais oedd fy nghyfnither fach ddwy oed, yn chwerthin yn braf wrth neidio o un pwll dŵr i’r llall yn ei onesuit pinc ac yn wên o glust i glust wrth adrodd ei hanes wedi bod yn dawnsio gyda Sali Mali a Jac y Jwg a gwylio Sioe Cyw!

Golygfa drist iawn oedd y byrddau picnic gwag o flaen y llwyfan perfformio unwaith eto heddiw, ac ychydig o dyrfa ddewr wedi closio o dan eu hymbaréls mor agos â phosibl at flaen y llwyfan i wrando ar y perfformwyr unig. Arhosais am ychydig i gael blas ar set Creision Hud ac Ynyr Llwyd, gan lwyddo i fwynhau’n arw rai o ganeuon newydd, mwy rociog y canwr o Ddinbych. Es heibio i Catrin Herbert a’i gitâr yn diddanu ryw ddau dri ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan felltithio’r hen Forus y gwynt ac Ifan y glaw go iawn am fynnu tarfu ar dalentau presennol y Sin Roc Gymraeg. Ar unrhyw achlysur arall, mae awyrgylch Steddfod yr Urdd yn llwyfan berffaith i ledaenu’r talentau hynny i gynulleidfaoedd newydd.

Doedd gennyf ddim dewis ond cilio i’r pafiliwn am ran helaeth o’r prynhawn, ac er gwaetha’r teimlad fod y to am chwythu i ffwrdd unrhyw eiliad, roedd safon y cystadlu mor uchel ag erioed, ac agwedd broffesiynol y cystadleuwyr i’w ganmol. Fe serennodd dau ŵr ifanc o Ddyffryn Conwy eu ffordd i’r brig yn yr ymgom bl.10 ac o dan 19 oed, cefais gymeradwyo Côr Bechgyn fy hen ysgol ar y llwyfan am y tro cyntaf ers dwn im faint o flynyddoedd a bu i’r offerynwyr llinynnol wneud gwyrthiau gyda’r ffidil. Llwyddiant lleol arall ym Mhrif Seremoni’r dydd i Anni Llyn a balchder bro enfawr pan gyhoeddwyd mai tri o Eryri ddaeth yn 2il a 3ydd yn gystadleuaeth hefyd. Wrth i Grug Muse, disgybl chweched dosbarth yn yr ysgol leol, Ysgol Dyffryn Nantlle gipio dau o’r tlysau gwaith cartref yn y seremoni gloi, sylweddolais mai blwyddyn y Gogs oedd hi yn llenyddol go iawn eleni, gyda holl enillwyr y Prif Seremonïau yn dod o’r Gogledd – o Brestatyn, Rhuthun, Llanuwchlyn a Phenrhyn Llyn.

Cystadleuaeth o fath gwahanol aeth a’m pryd ddiwedd y prynhawn, sef y siarad cyhoeddus i Ysgolion Uwchradd ac Aelwydydd, a’r beirniad, Dei Tomos, wedi ei blesio’n fawr, yn enwedig gan y grwpiau Uwchradd. Roedd y gosb eithaf, prisiau tai, pwysigrwydd Cymdeithas yr Iaith, y Gemau Olympaidd a’r Jiwbilî yn rhai o’r pynciau llosg a gafodd eu trafod a’u dadlau yn yr Annedd Wen, ac fe gafwyd cryn dipyn o hiwmor, yn enwedig gan josgins Hafodwennog!

Ar ôl pum diwrnod o wrando, edrych a rhyfeddu ar ddoniau talentog llwyth o blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru, rwy’n edrych ymlaen yn arw i gael cystadlu fy hun yfory ar ddiwrnod yr Aelwydydd. Ond mae’n rhaid imi gyfaddef, dwi ddim yn edrych ymlaen am y dechrau buan…7.15 yn y Ganolfan Groeso; mi fydd hynny’n fwy o sialens na’r perfformio!