Capel Salem, Treganna
Mae adran yr Urdd o fewn i un o gapeli Cymraeg bywioca’ Caerdydd wedi profi llwyddiant ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd heddiw.

Fe ddaeth Enlli, Lleucu a Nia o Adran Salem, Gorllewin Caerdydd, yn drydydd yng nghystadleuaeth y ddawns stepio i grwp o ddau, tri neu bedwar o bobol ifanc dan 25 oed yng Nglynllifon.

Mae Capel Salem, Treganna, yn ymhyfrydu ar ei wefan mai fo ydi “unig gapel Cymraeg gorllewin Caerdydd” a bod yr achos yn un “gweithgar a byrlymus… ac yn tyfu’n flynyddol”.

“Rhoddwn bwyslais arbennig ar y ffaith ein bod yn deulu yma yn Salem,” meddai’r wefan wedyn, “yn gylch o ffrindiau sy’n gwasanaethu Duw ac eraill. Mae gofalu am ein gilydd a’r gymuned ehangach yn flaenoriaeth i ni.”