Mwd ar y Maes
Mae rhai o stondinwyr Glynllifon yn beio’r Jiwbilî am “washout” diwedd wythnos Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Pe bai’r brifwyl ieuenctid wedi ei chynnal yn ystod wythnos arferol gwyliau Sulgwyn yr ysgolion, fe fyddai wedi mwynhau heulwen crasborth yr wythnos ddiwetha’.

Ond, oherwydd fod gwyl y banc ychwanegol Mehefin 5 (dydd Mawrth) wedi’i bennu drwy wledydd Prydain er mwyn nodi 60 mlynedd y Frenhines Elisabeth II ar yr orsedd, roedd gwyliau’r ysgolion hefyd – a’r Llungwyn – wedi ei symud ymlaen wythnos.

Ac oherwydd hynny, mae wedi cyd-daro â’r dyddiau gwlypaf ac oeraf i Gymru eu profi ers blynyddoedd.

Mae niferoedd ymwelwyr dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn  wedi bod yn siomedig iawn, o gofio fod yr eisteoddfod yn ymweld ag un o’r ardaloedd Cymreiciaf a mwya’ cefnogol i fudiad yr Urdd.