Mwd a glaw ar faes Glynllifon, brynhawn Gwener
Fe ddaeth y glaw, fe ddaeth y gwynt, ac oherwydd hynny, ddaeth yna ddim ond ychydig dan 10,000 o bobol trwy gatiau Eisteddfod yr Urdd Eryri heddiw. 9,876 ydi’r union nifer.

Mae hynny dros 3,000 yn is na’r nifer ar faes Abertawe y llynedd (13,049), a’r nifer ymwelwyr yn Llanerchaeron yn 2010 (13,257).

Cyfanswm yr ymwelwyr â maes Glynllifon ar ôl pump diwrnod eleni ydi 86,431.

Nod y trefnwyr ydi denu 100,000 o ymwelwyr cyn diwedd fory, chweched dydd yr wyl.