Mae enwau’r cystadleuwyr llwyddiannus a fydd yn cael cynrychioli Cymru mewn gwyl yn Eurodisney y flwyddyn nesa’, wedi eu cyhoeddi.

Fe fydd enillwyr pump o gystadlaethau yn Eryri yr wythnos hon, yn cael bod yn rhan o wyl ar gyrion Paris rhwng Mawrth 8-10, 2013.

Dyma’r enwau:

  • Cai Madog-Williams, Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych (Unawd Blwyddyn 2 ac iau)
  • Lliwen Medeni Jones, Adran Llangwm (Unawd Blwyddyn 4)
  • Beca Williams, Ysgol Gymraeg Aberystwyth (Alaw Werin Unigol Blwyddyn 6 ac iau)
  • Lleucu Parri, Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd (Dawns Werin Unigol i Ferched, Blwyddyn 9 ac iau)
  • Llinos Emanuel, Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin (Unawd Sioe Gerdd Blwyddyn 10 ac o dan 19 oed)

“Mae hi wastad yn braf cael croesawu talentau arbennig ieuenctid yr Urdd I Disneyland Paris,” meddai Peter Welch, Llywydd Cyrchfannau Disney Rhyngwladol.

“Edrychwn ymlaen at groesawu’r enillwyr a’u teuluoedd unwaith eto’r flwyddyn nesa’, er mwyn ymuno â ni yng Ngwyl Gymreig hudolus ac anhygoel byd Disney.”