Alun Ffred Jones ar y Maes fore Gwener
Mae Aelod Cynulliad Arfon yn dweud y dylai pawb sy’n ymboeni am yr iaith Gymraeg a Chymru dreulio cyfnod yn byw ac yn dod i ddeall ardal y ffin yn y gogledd-ddwyrain.

Fe fu Alun Ffred Jones, Llywydd y Dydd, dydd Gwener yn Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012, yn athro Cymraeg am gyfnod yn Ysgol Uwchradd Glannau Dyfrdwy, cyn mynd yn Bennaeth Cymraeg yn Ysgol Alun, Yr Wyddgrug.

Roedd hynny cyn mynd i weithio i wersyll yr Urdd, Glan-llyn, ac ymhell cyn iddo ddechrau ymwneud â gwleidyddiaeth.

‘‘Mi gawson ni brofiadau anhygoel gyda’r mudiad,” meddai Alun Ffred Jones a fu, yn ystod llywodraeth glymblaid Llafur-Plaid Cymru ym Mae Caerdydd, yn Weinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.

‘‘Mae hi’n anrhydedd fawr cael bod yn Llywydd y Dydd heddiw,” meddai wedyn. “Un peth bwysig yw’r bwrlwm ar faes yr Eisteddfod yr Urdd, sy’n eithriadol o bwysig. Ond mae’n rhaid hefyd defnyddio’r iaith os ydi hi am fyw, a lle gwell i wneud hynny drwy ei ddefnyddio ar faes yr Urdd?”