Teisen Urdd-aidd y Ty Golchi
Mae’r digrifwr, Tudur Owen, wedi bod yn gwerthu cacen liwgar, Urdd-aidd, yn ystod wythnos Eisteddfod Eryri.

Yn ystod Stomp yr wyl yn Y Ty Golchi ger Y Felinheli neithiwr (nos Iau), roedd cyfle i gynulleidfa o 80 o bobol yn y ganolfan gomedi ac adloniant fwynhau sleisen o deisen Battenburg goch, gwyn a gwyrdd.

“Mae’r deisen wedi bod yn gwerthu’n dda,” meddai Tudur Owen. “Mi oedd gynnon ni fisgedi Mr Urdd hefyd, ond mae’r rheiny wedi mynd i gyd.”

Yn gynharach eleni, fe drodd Tudur Owen hen fwyty Ty Golchi, ar ymyl cylchfan Y Faenol, yn ganolfan lle bydd nosweithiau comedi a phob math o adloniant yn cael eu cynnal.