Maes Eisteddfod yr Urdd Eryri, 2012
Ar ddiwrnod o law trwm a chymylau duon, 13,817 o bobol ddaeth i Eisteddfod yr Urdd Eryri heddiw.

Mae hynny bron i 2,000 yn is na’r nifer fu ar faes Abertawe ar bedwerydd dydd eisteddfod 2011 (15,721), a thua’r un faint yn is na’r 15,693 fu yn Eisteddfod Llanerchaeron, Ceredigion yn 2010.

Mae hynny’n golygu fod cyfanswm o 76,555 o bobol wedi bod ar faes Glynllifon yn ystod y pedwar diwrnod cynta’.

Mae’r trefnwyr wedi gosod nod o 100,000 ar gyfer y chwe niwrnod o gystadlu.