Ffion Eluned Owen

Eisteddfod yr Urdd 2012 – Dydd Mercher

Dros yr wythnosau diwethaf, dw i wedi bod yn eithaf cenfigennus o bawb adref yn Eryri yn cael bod yng nghanol bwrlwm paratoadau’r Eisteddfod tra’r oeddwn innau yn y coleg yng nghanol poenau arholiadau diwedd blwyddyn; yn wir, roeddwn yn edrych ymlaen yn arw i ddod adref i ganol yr holl fflagiau coch, gwyn a gwyrdd!

Ac fe gefais i groeso adref go iawn yn y sioe gynradd, ‘Ar Gof a Chadw’ yn y Pafiliwn neithiwr, wrth i 380 o blant talentog a brwdfrydig fy atgoffa innau – a gweddill Cymru – pa mor arbennig yw Eryri. Cafwyd chwip o sioe hwyliog yn cynnwys llwyth o ganeuon cofiadwy ac ambell i ddarn, fel deialog y Cofis ar y cychwyn, fydd yn gwneud imi chwerthin am sbel eto.

Roedd yna lu o enwogion, cymeriadau mytholegol, arwyr hanesyddol a buwch go arbennig o’r enw Blod yn rhan o’r hwyl a phob un plentyn wrth eu boddau yn cael cynrychioli eu hardal wrth adrodd stori pum cwmwd Eryri. O am gael fod 10 mlynedd yn llai i gael bod yn rhan o sioe mor wefreiddiol!

Mae’n wir nad ewch chi’n bell mewn unrhyw ’Steddfod heb stopio i gael sgwrs efo’r hwn a’r llall, ond mewn Steddfod leol, mae hynny’n mynd i lefel arall!  Rhwng hen athrawon ysgol, cymdogion, ffrindiau coleg a hen ffrindiau ysgol, fe gymerodd tua hanner dwsin o ‘helo, ti’n iawn, sut mai’n mynd?’ i fi symud o’r Ganolfan Groeso i’r stondin gyntaf y bore ’ma, a braf oedd gweld gymaint o gymysgedd o bobl leol ac ymwelwyr wedi dod i fwynhau.

Wrth gerdded o gwmpas roedd yna rywbeth i dynnu fy llygaid ym mhob cornel, ac fe gefais gip ar y Fari Lwyd yn crwydro’r maes. Ar rai adegau, roedd hi’n anodd coelio fy mod yng Nglynllifon o gwbl – cyn i’r haul boreol ddisgleirio yn y cefndir ar Fynydd Eliffant a Moel Tryfan ac wrth i’r olygfa i lawr am y môr ac am fraich yr Eifl fy atgoffa o’r lleoliad godidog.

Os fyddech chi wedi digwydd bod yn mynd heibio i babell y Mudiad Meithrin tua 2 o’r gloch y pnawn ’ma, mae’n fwyaf tebyg y byddech wedi sylwi ar y lle’n orlawn ac ar lot fawr o sŵn! Yng nghwmni Heini, cymeriad Cyw S4C, roedd tua hanner cant o blant yn neidio ac yn gweiddi i ddathlu lansiad llyfr newydd ‘Mae’n Iawn Bod yn Wahanol’ gan gwmni cyhoeddi Atebol. Gyda chefnogaeth y Mudiad Meithrin, nod y llyfr dwyieithog yw dathlu’r gwahaniaethau rhwng un plentyn a’r llall a’r ffaith bod bob un plentyn yn wahanol ac yn arbennig yn eu ffyrdd eu hunain.

Mae cymaint o ddigwyddiadau amrywiol ar wahanol stondinau ym mhob cwr o’r maes, a thros y dyddiau nesaf, rwy’n gobeithio cael ychydig o flas ar rai ohonynt!

Er mwyn cilio rhag cawodydd y prynhawn, bûm yn y Pafiliwn yn gwylio ychydig o’r cystadlu a llwyddais i weld Prif Seremoni’r Dydd, Y Fedal Ddrama. Llongyfarchiadau mawr i’r gŵr ifanc lleol, Llŷr Titus am ychwanegu’r Fedal at Goron y llynedd ac mae’n rhaid imi hefyd longyfarch perfformiad hynod egnïol dawnswyr hip-hop cylch Eifionydd i gyfarch y buddugol; gwych yw’r gair!

Dw i’n gobeithio crwydro mwy o stondinau’r maes yfory, a chofiwch ddod am dro os ydych yn y cyffiniau; maen nhw’n gaddo tywydd mawr, ond ‘da chi byth yn gwybod, mae hyd yn oed y dyn tywydd yn gallu bod yn anghywir weithiau!