“Llywydd y bobol gyffredin” ydi Malcolm

Diweddarwyd am  


Malcolm Allen ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri, 2012
Mae Llywydd y Dydd, Eisteddfod yr Urdd Eryri heddiw, yn derbyn yr anrhydedd “fel un o’r bobol gyffredin”.

Mae’r pêl-droediwr o Ddeiniolen, Malcolm Allen, yn ei ystyried hi’n “anrhydedd” cael bod yn Llywydd, ac yn dweud pa mor bwysig ydi hi i bobol ifanc gael defnyddio eu talentau amrywiol trwy gyfrwng mudiad fel yr Urdd.

“Mi fyddai’n ddiolchgar i’r Urdd am byth am y cyfle hwn,” meddai. “Dw i’n derbyn yr anrhydedd fel un o’r bobl gyffredin.

“Mae’n bwysig bod pawb yn cael y cyfle i ddefnyddio’u talent. Mae’r Urdd yn rhywbeth i bawb, nid dim ond cantorion a llenorion yn unig.”

Mae Malcolm Allen wedi ennill 14 cap dros Gymru (rhwng 1986-1993) ac wedi gwneud ei farc ym maes pêl-droed proffesiynol ac yn rhyngwladol dros Gymru. Ond fe ddechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda Watford ym mis Mawrth 1985 – oedd yn golygu symud o’i annwyl “Lanbabo” – hen enw ar bentre’ Deiniolen.

”Y gelyn mwya’ bryd hynny oedd hiraeth,” meddai Malcolem Allen, “ac mi wnes i sylweddoli faint mor lwcus o’n i o gael byw yn y fro yma.”

Bellach, mae Allen yn sylwebydd a’r gemau pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair Cymru ar y rhaglen ‘Sgorio’.  Ond ychydig iawn ohonom sy’n gwybod am lwyddiant y gŵr 45 a ennillodd ar lwyfan yr Urdd yn Y Barri yn 1977 yn y gystadleuaeth gân actol.

”Wedi’r llwyddiant, cawsom ni wahoddiad gyda Seindorf Arian Deiniolen i berfformio mewn cyngerdd yn yr Albert Hall yn Llundain.  Profiad â hanner!,” dywedodd Allen.

Eisteddfodau

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Gwobrau BAFTA Cymru 2018