Cadair Eisteddfod yr Urdd Eryri, 2012
Mae’r Gadair y mae disgwyl i’r bardd buddugol ei hennill ym mhrif seremoni llwyfan y Pafiliwn heddiw, yn “gofeb i wŷr y Pethe a’r pridd”.

Mae’r gadair yn cael ei rhoi er cof am Meirion a Ceredig Parry, tad a mab o Roslan ger Cricieth, gan y teulu – Edith Parry, Bethan Jones Parry, Eleri Parry a Gwynant Rhys.

“Mi fyddai’r ddau wrth eu boddau eu bod nhw’n cael eu coffau â’r Eisteddfod yn Eryri,” meddai Bethan Jones Parry, merch Meirion Parry a chwaer i Ceredig. “Dyn y Pethe oedd Dad, a dyn y pridd oedd Ceredig, yn ffermio’r fferm deuluol, ond roedd y ddau’n Gymry i’r carn.

“Mi fuo Dad yn weithgar efo’r Urdd am flynyddoedd maith… a bu’n arwain nifer o eisteddfodau cylch a sir am flynyddoedd lawer. Roeddem, fel teulu, yn ei gweld hi’n gyfle gwerth chweil yn Eisteddfod yr urdd eleni i gofio am ŵr, tad, brawd a thaid annwyl iawn.”

Bu farw Ceredig yn 2009 yn dilyn gwaeledd, yn 50 oed, gan adael gwraig, Eleri, a mab, Gwynant Rhys, sydd bellach yn 13 oed. Flwyddyn ynghynt y collodd y teulu’r gwr hynaws Meirion Parry, a oedd yn wreiddiol o Gefn Faes Llyn, rhwng Penygroes a Llanllyfni, ond a dreuliodd weddill ei oes yn Eifionydd.