Neges Ewyllys Da yn cael ei berfformio ar gopa'r Wyddfa
Fe fydd aelodau Fforwm Ieuenctid Eryri Urdd Gobaith Cymru yn cyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd ar lwyfan y Pafiliwn heddiw. Ond ymhen tair wythnos, fe fydd y geiriau Cymraeg i’w clywed am y tro cynta’ mewn 22 o ddinasoedd a threfi ar hyd a lled gwledydd Prydain.

Mae’r neges, sydd wedi ei seilio ar egwyddorion y Gêmau Olympaidd, wedi cael ei chyflwyno ddwywaith yn barod eleni – unwaith ar gopa’r Wyddfa, ac unwaith eto yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Ond, ar Fehefin 21, fe fydd ffilm o’r cyflwyniad yn y Pafiliwn y prynhawn yma yn cael ei ddangos ar 22 o sgriniau mawr y BBC mewn dinasoedd ar hyd a lled gwledydd Prydain.

‘‘Dyma’r tro cynta’ i’r neges gael ei chyflwyno mewn dinasoedd ledled Prydain, felly rydyn ni’n falch iawn o’r neges eleni ac o’r gwaith mae ieuenctid fforwm Eryri wedi ei wneud arni,’’ meddai Efa Gruffydd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.