Mae yna bethau rhyfedd i’w gweld ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Yn y bloc toiledau rhwng cefn llwyfan, lloc y cwmni teledu a’r BBC ac ystafell y Wasg, mae drws ac arno symbol o ferch mewn sgert. Ond eto, o gamu i mewn ac edrych ar y dde, fe welwch chi ystafell fechan a thri iwreinal (lle pasio dwr dynion) yno!

Tybed be’ mae hyn yn ei ddweud wrthon ni? Fe adawn ni i’r llun siarad drosto’i hun…