Eirian Stephen Jones - yr eisteddfod yn binacl ei blwyddyn yn Llywydd mudiad yr Urdd
Mae Llywydd mudiad yr Urdd yn “gwrthod dweud dim byd negyddol” am y mudiad, ac mae wythnos yr Eisteddfod yn Eryri yn binacl ar ei blwyddyn yn y swydd.

Yn syth ar ôl bod mewn rhagbrawf gydag Adran Bentref Rhosybol ben bore heddiw, roedd Eirian Stephen Jones yn dweud mai cael ei dewis yn Llywydd Urdd Gobaith Cymru am y flwyddyn 2011-12 ydi un o brofiadau gorau ei bywyd.

Ers dechrau ar ei chyfnod fis Tachwedd y llynedd, mae hi wedi bod yn cynrychioli’r mudiad yn y wasg ac ar y cyfryngau, mae wedi bod mewn eisteddfodau, yn ogystal â mynd ar drip rygbi… a chyfarfod â rhywun arbennig yn 10 Stryd Downing, Llundain.

“Mi ges i gynrychioli’r Urdd mewn derbyniad Gwyl Ddewi yn 10 Stryd Downing,” meddai Eirian.

“Roedd o’n brofiad swreal siarad efo Ffion Hague (y Gymraes sydd yn briod â Gweinidog Tramor llywodraeth Prydain, William Hague) ac enwogion fel Rebecca Evans (y gantores opera), Karl Jenkins (y cyfansoddwr), Tim Rhys Evans (arweinydd côr Only Men Aloud), Warren Gatland (hyfforddwr tim rygbi Cymru) a Joanna Page (yr actores sy’n chwarae ‘Stacey’ yn y gyfres gomedi Gavin & Stacey) yn sefyll y tu cefn i fi.

“Mi ges i gyfarfod  y Prif Weinidog, David Cameron, ac arwr y foment, Sam Warburton, capten tim rygbi Cymru, ac mi fues i’n siarad efo fo am ugain munud! Roedd hynny ychydig ddyddiau ar ôl i Gymru ennill y Goron Driphlyg!

“Mae’n synnu pobol pan fydda’ i’n dweud fy mod i’n berson eitha’ swil a bod yn gas gen i siarad yn gyhoeddus,” meddai Eirian wedyn. “Mae’n well gen i fod yn gwneud pethau yn ddistaw bach yn y cefndir, ond mae’r Urdd wedi bod yn gymorth i mi fasgu rhywfaint o hyder trwy gystadlu, arwain cyfarfodydd ac arwain eisteddfodau.”