Huw Antur, Cyfarwyddwr gwersyll Glan-llyn
Mae gwersyll yr Urdd Glan-llyn wedi cael ei flwyddyn fwya’ llwyddiannus erioed, ac wedi denu dros 13,000 o wersyllwyr ar benwythnosau dwy noson.

Wrth adrodd ar waith adeiladu cegin newydd yng Nglan-llyn dros y gaeaf, mae Huw Antur, Cyfarwyddwr y gwersyll yn Llanuwchllyn, am weld y lle’n denu mwy eto o blant a phobol ifanc o bob oed.

“Mae Glan-llyn newydd gael y flwyddyn fwya’ llwyddiannus yn ei hanes, a dw i’n gobeithio y bydd o’n mynd o nerth i nerth,” meddai Huw Antur.

“Ryden ni wedi ehangu oedran y plant a’r bobol ifanc yr yden ni’n eu denu, felly mae ganddon ni blant iau a phobol ifanc hŷn yn dod i aros. Mae’r sbectrwm yn dal i ehangu.”

Ond yn ogystal â chael cegin newydd a derbynfa newydd, ac uwchraddio tipyn ar y caban bwyta, mae’r datblygiadau yng Nglan-llyn yn rhan o greu Canolfan Ragoriaeth Eryri – sef prosiect ar y cyd â Chyngor Gwynedd i droi ardal Meirionnydd yn un sy’n arbenigo mewn cyrsiau a gweithgareddau cefn gwlad ac awyr agored.

Y ffigyrau

Fe fu 13,000 o blant a phobol ifanc yn aros penwythnos dwy noson yng Nglan-llyn yn ystod y flwyddyn Ebrill 2011 i ddiwedd Mawrth 2012. 11,500 fu yno yn ystod yr un cyfnod yn 2010-11.