Tipi ar faes yr Urdd
Gyda holl westai ardal Eryri wedi llenwi ers misoedd, doedd 32 o wersyllwyr ifanc ddim yn poeni am hynny, oherwydd maen nhw’n aros y nos mewn tipis ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri yr wythnos hon.

Cynllun Llwybrau i’r Brig sy’n gyfrifol am sefydlu’r tîpis, a bwriad y cynllun hwnnw ydi hybu’r Gymraeg ymhlith pobol ifanc trwy pob math o weithgareddau. Mae pedair pabell, cegin, cawodydd a lle tân sydd ar gyrion prif Faes y brifwyl ieuenctid ar dir coleg Glynllifon.

‘‘Fe gawson ni lawer o gefnogaeth gan yr Urdd, ac yn ogystal â chael lle i’r bobol ifanc i aros, r’yn ni am roi cyfle i’r bobol ifanc i wneud llawer o weithgareddau amrywiol,” meddai Nia Evans, sef Swyddog Llwybrau i’r Brig ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.

“Yn y pen draw, gobeithio y bydd y profiad yma’n gwella sgiliau yr unigolion a magu hyder, wrth iddyn nhw gymysgu yn y gweithgareddau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.”

Hyd yn hyn yr wythnos hon, mae pobol ifanc o bob cwr o Gymru sy’n rhan o’r grwp o 32 yn y tipis, wedi bod yn dringo’r Wyddfa, a heddiw, fe fyddan nhw’n canwïo ac yn gwneud ychydig o waith tîm.  Yfory, fe fyddan nhw’n coginio ac yn cynnal gweithgareddau gwahanol ar hyd a lled y Maes.

‘‘Ro’n i’n awyddus i Lwybrau’r Brig fod yn rhan o’r eisteddfod,” meddai Nia Evans. “Ro’n i’n ceisio denu’r plant sydd ddim yn arfer dod i Faes yr eisteddfod.”