Gari Wyn - "rhaid ildio'r awenau i bobol ifanc"
Mae cenhedlaeth y bobol dros 50 oed yn y Gymru Gymraeg yn cael gormod o sylw, ac fe ddylen nhw ildio eu lle er mwyn creu arweinwyr newydd, ifanc.

Dyna un neges gan Gari Wyn, y gwerthwr ceir a’r entrepreneur sy’n Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Eryri heddiw.

Mae hefyd yn awyddus i weld dau brif newid ar lwyfan yr Urdd, meddai, sef:

  • Dylai pob un sy’n arwain yr eisteddfod fod yn bobol ifanc ac yn bobol sydd wedi bod yn amlwg ar lwyfan y brifwyl ieuenctid ac o fewn y mudiad yn reit ddiweddar;
  • Mae angen mwy o gystadlaethau ‘ifanc’ ar y prif lwyfan – ac mae hynny’n cynnwys y cystadlaethau creadigol a’r grwpiau pop sydd ar hyn o bryd wedi eu neilltuo i gorneli o’r maes

“Dw i’n teimlo bod fy nho i yng Nghymru, y rhai sydd dros eu hanner cant oed, ddim yn creu arweinwyr ifanc fel y dylsen nhw,” meddai Gari Wyn.

“Mae yna gap lle dylai fod yna arweinwyr newydd y byd gwleidyddol, o safbwynt yr Iaith ac arweinwyr Cymdeithas… Dw i’n teimlo bod fy nghenhedlaeth i yn cael llawer iawn o sylw fel arweinwyr ar y cyfryngau ac yn genedlaethol, ond mae angen creu arweinwyr newydd.

“Mae angen pwysleisio ein pobol ifanc, mae angen iddyn nhw gael mwy o sylw, achos nhw ydi ein dyfodol ni.”

Wrth annerch y gynhadledd i’r wasg am 10 o’r gloch heddiw, roedd Gari Wyn yn dweud mai’r cyfnod y treuliodd yn aelod o’r Urdd, yn ogystal â’r Ysgol Sul, ydi’r cyfnod sydd wedi dylanwadu fwyaf arno ac wedi creu “y cymeriad ydw i heddiw”.