Ifor ap Glyn, un o'r tri bardd ar restr fer Llyfr Barddoniaeth y Flwyddyn eleni
Fe fydd y tri bardd sy’n cystadlu’n erbyn ei gilydd am Wobr Llyfr Barddoniaeth y Flwyddyn eleni, yn perfformio gyda’i gilydd ar Faes Eisteddfod yr Urdd Eryri heddiw.

Mae cyfrolau Ifor ap Glyn, Karen Owen a Gerwyn Wiliams wedi eu henwi ar y rhestr o dri llyfr a gyhoeddwyd yn ystod 2011 ac sy’n cael eu hystyried ar gyfer gwobr llyfr barddoniaeth gorau y llynedd.

Fe fydd y tri yn perfformio ym Mhabell Print ar faes Glynllifon am 3 o’r gloch heddiw, a’r bwriad ydi cynnal tair noson arall yn Llanfrothen, Wrecsam a Chaerfyrddin yn ystod mis Mehefin a dechrau Gorffennaf.

Bydd enwau enillwyr Llyfr Barddoniaeth y Flwyddyn, Llyfr Ffuglen y Flwyddyn a Llyfr Ffeithiol y Flwyddyn, yn ogystal ag enillydd y wobr gyffredinol Llyfr y Flwyddyn, yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, ar Orffennaf 12.