Yr hogyn go iawn - Bryn Fôn, torrwr ffenestri
Mae Bryn Fôn yn rhannu efo’r byd ei record o dorri ffenestri ei hen ysgol uwchradd, mewn rhifyn arbennig o gylchgrawn gan yr ysgol honno.

Mae Ysgol Dyffryn Nantlle wedi cyhoeddi rhifyn o’r Eryr yn arbennig ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012, fel ag y gwnaeth yn 1990 pan ddaeth yr eisteddfod i Ddyffryn Nantlle ac Arfon.

Mae nifer o gyn-ddisgyblion yr ysgol, sydd bellach yn enwog neu’n dal swyddi cyhoeddus, wedi ysgrifennu erthygl yr un – yn cynnwys yr actor a Chyfarwyddwr asiantaeth gwrth-alcohol a chyffuriau, Wynford Elis Owen;  yr actores Mari Gwilym; y ddwy awdures Angharad Tomos a Rhiannon Wyn; a’r argraffwr a’r dyn busnes a chyn-aelod o staff yr Urdd, Dafydd Owen.

Mae Bryn Fôn yn cofio bod yn gapten Llifon, un o bedwar ty yr ysgol, pan oedden nhw’n arbennig o lwyddiannus yn y mabolgampau.

“Mae gen i atgofion melys iawn o amser hapus iawn yn fy mywyd,” meddai Bryn Fôn yn y darn cwestiwn-ac-ateb i’r Eryr. “Do’n i ddim y mwya’ academaidd, ond rywsut, gyda help athrawon cydwybodol, llwyddais i basio digon o arholiadau Lefel O ac A i fynd ymlaen i goleg.

“Chwaraeon oedd fy mhrif ddiddordeb, a phêl-droed yn arbennig. O’n i’n go lew am redeg pellter hir, a dw i’n credo fod y record am redeg y filltir gyflyma’ yn dal gen i, oherwydd bod y sustem fetrig wedi dod i rym wedyn a 1,500m yn cymryd lle’r hen filltir.

“Roedd gen i record arbennig arall hefyd – fi oedd wedi torri’r mwya’ o ffenestri yn yr ysgol!” meddai Bryn Fôn. “Adeg hynny, roeddech yn gorfod mynd i nôl y gwydr i drwsio’r ffenest eich hun… ac arwyddo llyfr damweiniau.”