Croeso di-draffig i faes Eisteddfod yr Urdd 2012
Does dim tagfeydd traffig o gwbwl heddiw, i’r un cyfeiriad, ar drydydd dydd Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Wrth i Golwg360 gyrraedd y Maes toc wedi wyth o’r gloch, roedd ffordd yr A499 yn glir, a mesurau ychwanegol y cwmni trafnidiaeth a Heddlu Gogledd Cymru, yn amlwg, yn gweithio.

  • Mae goleuadau traffig gan y stiwardiaid i’w defnyddio, os y bydd angen, er mwyn rheoli llif y traffig i mewn ac allan o’r un twll yn wal hir stad Glynllifon i’r maes parcio
  • Mae nifer o heddweision i’w gweld, ar droed, mewn ceir ac ar gefn beiciau modur
  • Mae lôn ganol, a oedd wedi ei chau ddoe trwy ddefnyddio conau oren, bellach yn cael ei defnyddio fel ffilter i’r traffig sy’n teithio o gyfeiriad Pwllheli i mewn i’r Maes. Mae hyn yn golygu fod traffig sydd ddim am fynd i’r eisteddfod yn gallu mynd o’r tu arall heibio, ar y chwith

Mae mwy o stiwardiaid hefyd ar y maes parcio. Mae cyflwr hwnnw ychydig yn fwdlyd, ond heb fod yn fudur iawn. Dylai’r heulwen gynnes sy’n disgleirio ers ben bore heddiw, sychu’r tir dan draed.