Y Boodhound yn y GwyddonLe
Mae’r car a fydd yn ceisio torri record y byd y flwyddyn nesa’, i’w weld ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri yr wythnos hon.

Mae’r cerbyd uwch sonig, Bloodhound, yn treulio’r wythnos wedi’i barcio yn y babell wyddoniaeth – GwyddonLe – ar faes Glynllifon.

Ond y flwyddyn nesa’, fe fydd Bloodhound a’r tîm o beirianwyr a thechnegwyr y tu ôl iddo, yn ceisio cyrraedd cyflymder o 1,000 milltir yr awr. Mae hynny bump gwaith yn gyflymach na char rasio Fformiwla Un.

Mae’r car yn mesur 12.8m o hyd, yn pwyso 6.4 tunnell fetrig, ac yn cael ei bweru gan fotor Eurojet EJ200.

Mae wedi cyrraedd Eryri oherwydd bod ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio ar ba mor aerodynameg ydi’r Bloodhound.

Mae Bloodhound wedi cael ei gynllunio yn arbennig i ysbrydoli mwy o bobol ifanc i astudio pynciau STEM (Peirianneg, Gwyddoniaeth, Technoleg a Mathemateg) a thrwy hynny i greu cenhedlaeth newydd o ddarpar wyddonwyr a pheirianwyr.