Y torfeydd ar faes Glynllifon
Am yr ail ddiwrnod yn olynol, fe ddaeth dros 24,000 o ymwelwyr i faes Eisteddfod yr Urdd heddiw. Mae hynny  er gwaetha’ trafferthion y traffig, ac yn wyneb tywydd gwlyb a glawog.

Fe ddaeth 24,521 o bobol trwy’r giatiau i faes Glynllifon, ar gwr priffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli. 20,093 o ymwelwyr ddaeth i’r maes ar y dydd Mawrth yn Abertawe y llynedd.

Yng nghwrs y dydd heddiw, fe ysgafnhaodd y traffig, ac roedd y llif i’w weld yn gynt ac yn esmwythach wedi cyfarfodydd brys rhwng yr Urdd, Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru.

Heno, wrth i eisteddfodwyr adael y Maes ar derfyn y diwrnod cystadlu, fe fydd cynulleidfa pasiant y plant yn dod i’r Maes ar gyfer y perfformiad cynta’ o’r sioe ‘Ar Gof a Chadw’ yn y Pafiliwn.

Mae ffigyrau heddiw yn golygu fod cyfanswm ymwelwyr Glynllifon yn 48,434 ar ôl deuddydd o’r wyl. Y nod gan y trefnwyr oedd denu 100,000 dros chwe niwrnod o gystadlu.