Y Bandana - un o fandiau'r llwyfan perfformio yng Nglynllifon
Eleni, am y tro cynta’, mae’r cylchgrawn cerddoriaeth roc a phop, Selar, yn cydweithio efo’r Urdd er mwyn cynnal llwyfan i fandiau ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Ar y llwyfan, sydd yn rhan o ardal bicnic y Maes yng Nglynllifon, fe fydd artistiaid fel Y Bandana, Yr Angen, Violas, Sen Segur, Creision Hud a’r bit-bocsiwr, Ed Holden, yn perfformio rhwng 1 a 2 o’r gloch bob dydd.

“Ryden ni’n falch iawn o’r cyfle i gydweithio efo’r Urdd ar faes Glynllifon eleni,” meddai Owain Schiavone, golygydd cylchgrawn Selar.

“Gan fod Selar yn gylchgrawn ar gyfer pobol ifanc yn bennaf, mae’n gyfle i ni hybu’r brand yn yr eisteddfod a rhannu’r cylchgrawn i’n darllenwyr. Mae pedwar rhifyn y flwyddyn yn cael eu cynhyrchu a’u dosbarthu am ddim ledled Cymru.”