Eryl Seddon ar y Maes
Atgofion cymysg am daith yr Urdd i’r Almaen ychydig flynyddoedd wedi’r Ail Ryfel Byd oedd gan Eryl Seddon, a ddaeth i Glynllifon heddiw i rannu ei phrofiadau.

Roedd y wraig 78 mlwydd oed yn cofio taith hanesyddol a dadleuol y mudiad i’r Goedwig Ddu yn 1952 – cwta saith mlynedd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Ond os oedd yna gwestiynau mawr ynglyn â p’un ai y dylen nhw fod yn mynd i wlad Hitler hanner canrif union yn ôl, roedd yna fwy o drafferth wrth geisio chwilio am lety i’r Almaenwyr wrth iddyn nhwthau ddod ar y daith gyfnewid i Gymru y flwyddyn wedyn.

‘‘Oedd yna lawer o bobol ddim eisio i ni fynd,” meddai Eryl Seddon, neu Eryl Williams pan oedd hi’n aelod o Alwyd Ogwen, Bethesda yn ôl yn 1952. Mae hi bellach yn 78 mlwydd oed ac yn byw yn Llanfairfechan.

“Y flwyddyn wedyn mi ddaeth yr Almaenwyr yma i aros a dw i’n cofio’r drafferth a gafwyd yn ceisio dod o hyd i le iddyn nhw aros efo amryw ddim yn fodlon eu cymryd i’w tai.”

Cofio’r daith

Yn 1952, roedd Eryl yn ferch 18 oed, ac mae’n cofio cychwyn ar y daith i’r Goedwig Ddu. Fe ymunodd â phobol ifanc o Lanllyfni a Phenygroes yn ogystal â chriw o dde Cymru wrth ddal trên o Fangor i Lundain, cyn dal y fferi oddi yno i gyfandir Ewrop.

Fe fu’n aros gyda theuluoedd y ddwy noson gynta’, cyn teithio i ganol y Goedwig Ddu ac aros yno am wythnos yn cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau ac yn chwarae gemau.

Mae Eryl Seddon wedi teithio llawer ers y daith honno yn 1952, ac mae’n dweud ei bod wrth ei bod yn cyfarfod â phobol o wledydd eraill. Mae’n gobeithio y bydd pawb yn dysgu byw’n gytûn.