Mena Jones
Mae un o aelodau cynta’ erioed Urdd Gobaith Cymru wedi ymweld â maes Glynllifon heddiw – a hynny wedi ei gwisgo mewn coch, gwyn a gwyrdd.

Ers rhai dyddiau, roedd Mena Jones, 99 oed o Borthmadog, wedi penderfynu pa ddillad yn union yr oedd hi am eu gwisgo er mwyn talu teyrnged i’r mudiad sy’n agos iawn at ei chalon. Roedd Mena Jones wedi gwisgo ffrog goch a gwyrdd, siaced ysgafn wen a threfniant bychan o flodau ar ei llabed. Roedd hefyd wedi taenu baner y ddraig goch dros ei chôl.

“Dw i’n cofio ymaelodi,” meddai’r gyn-athrawes sydd bellach yn byw mewn cartref henoed ym Mhorthmadog, nepell oddi wrth ei merch a’i mab-yng-nghyfraith. Mae’n dal i gredu ei bod hi’n bwysig dilyn llythyr Ifan ab Owen Edwards yn rhifyn Ionawr 1922 o’r cylchgrawn Cymru’r Plant, lle mae’n annog, ‘unwn gyda’n gilydd i benderfynu y gwnawn bopeth all helpu ein cenedl’.

Roedd O M Edwards yn gefnder i fam Mena Jones, ac roedd OM, yn ogystal ag Ifan ab Owen Edwards wedyn, yn arfer mynd i’r un capel â hi – Capel Glanaber – yn Llanuwchllyn.

“Faswn i’n dweud mai’r prif reswm dros ymaelodi efo’r Urdd heddiw, fasa’r gymdeithas dda – ym mhob ystyr,” meddai Mena Jones ar y Maes.

“Dw i’n meddwl y basa OM yn hapus iawn o weld y cyfleoedd mae plant yn eu cael heddiw, a dw i’n meddwl y basa Ifan ab yn falch o weld y mudiad wedi lledu dros Gymru i gyd.”