Bedwyr Williams yn ei bortread ei hun o gefn gwlad, un o'r gweithiau a enillodd iddo Fedal Aur Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011
Mae artist o fro Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 yn poeni y gallai torri’n ôl ar arian cyhoeddus effeithio’r ffordd y mae plant a phobol ifanc yn dysgu am gelfyddyd mewn ysgolion.

Roedd Bedwyr Williams yn siarad ar ôl agor pabell Gelf, Dylunio a Thechnoleg yr wyl yng Nglynllifon. Roedd wedi ei blesio’n arbennig gan safon y cynhyrchion – yn enwedig y gwaith crefft a’r ffotograffiaeth – ac mae’n gobeithio y bydd pobol ifanc yn dal I gael arbrofi yn y dosbarth, beth bynnag ydi’r hinsawdd economaidd.

“Y gwir ydi, efo lot o dorri’n ôl, mi fedrwch chi brynu lot o baent a stwff celf am yr un faint o bres ag mae’n gostio i brynu telyn,” meddai Bedwyr Williams, enillydd triphlyg prif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 2011.

“Ond mae’n bwysig fod plant a phobol ifanc yn dal i gael cyfle i arbrofi. Dw i’n meddwl, ella, fod yr hinsawdd economaidd heddiw yn golygu bod pethau fel crefft wedi dod yn perthnasol.

“Ar un adeg, yn y 1970au a’r 1980au, oedd crefft i weld yn rhywbeth hen ffasiwn, ar gyfer pobol oedd wedi symud i mewn i Gymru ac yn byw rhyw fywyd gwahanol… Mae hynny wedi newid, ac mae’r gwaith crefft sydd yn Eryri eleni yn waith celf, bron.”

Ail-gylchu yn naturiol

Mae ail-gylchu yn dod yn naturiol i blant a phobol ifanc heddiw, meddai Bedwyr Williams, gan gyfeirio at y ffordd y mae enillwyr Eryri 2012 yn gwneud defnydd o bethau y maen nhw’n dod o hyd iddyn nhw o gwmpas y ty neu’r ardal er mwyn cynhyrchu gwaith newydd.

“Be’ dw i’n licio ydi’r ffordd mae o’n digwydd yn naturiol, ac wedyn dim ail-gylchu ydi o, ond creu.”