Ken Hughes
Mae pasiant y plant eleni wedi ei ysbrydoli gan golled drist yn hanes cyfarwyddwr y sioe.

Fe ddychrynodd Ken Hughes pan sylweddolodd, wedi marwolaeth ei fam ychydig flynyddoedd yn ôl,  nad oedd ganddo yr un llun o’r wraig oedd wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth ac yn gefn iddo yn ystod ei blentyndod yn Llanllyfni, Dyffryn Nantlle.

Dyna pam, meddai, fod y sioe ‘Ar Gof a Chadw’ yn cofnodi hanes, traddodiadau a chwedlau Eryri, gan roi ar gof a chadw y cof am y pump ardal sy’n rhan o dalgylch yr eisteddfod.

“Mae hi mor bwysig rhoi ar gof a chadw y cof am Eryri,” meddai Ken Hughes, a ymddeolodd o fod yn brifathro Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog, ym mis Rhagfyr 2011, ac sy’n gyfrifol am gyd-sgriptio a chyfarwyddo’r 400 o blant yn y sioe.  

“Maen nhw’n atgofion hapus a thrist, yn bethau chwedlonol a gwleidyddol… dw i’n credu mai rhoi profiadau fel hyn i blant ydi un o’r pethau pwysica’. Dyna ydi addysg i Ken Hughes.

“Ydi, mae Mathemateg yn bwysig, ydi, mae Gwyddoniaeth yn bwysig, ond mae rhoi profiadau theatrig hefyd yn anfesuradwy.”