Angharad Tomos
Mae Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 yn dyheu am y dydd pan na fydd dysgwyr yng Nghymru.

Wrth annerch cynhadledd i’r wasg ar faes Glynllifon ar ddydd Mawrth sydd, yn draddodiadol , yn ddiwrnod anrhydeddu enillydd Medal y Dysgwyr, mae Angharad Tomos yn dweud ei bod hi am weld system addysg yng Nghymru sy’n rhoi’r iaith i bob plentyn.

“Dw i’n ffodus iawn,” meddai’r awdur a’r ymgyrchwraig a gafodd ei magu yn Llanwnda ond sydd, bellach, yn byw ym Mhenygroes. “Mi ges i fy magu yn Gymraes… a fasa hynny ddim wedi digwydd oni bai i’n teulu ni symud i Ddyffryn Nantlle i fyw.

“Mae teulu fy nhad yn hanu o Sir y Fflint, a dim ond y ni, fel plant fy nhad, sydd yn medru’r Gymraeg. Chafodd yr Iaith ddim ei throsglwyddo i weddill y teulu, ac mae hynny’n drist.

“Ond dw i’n edrych ymlaen at y dydd pan na fydd dysgwyr yng Nghymru,” meddai Angharad Tomos wedyn, “pan fydd pawb yn cael addysg Gymraeg o’r dechrau.”