Ymlacio yn y bath ar y Maes
Eleni, am y tro cynta’ erioed, mae ystafell molchi a chegin gyfan yn rhan o stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd. Mae’n rhan o arddangosfa gan gymdeithas dai Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Yn yr arddangosfa, fe all eisteddfodwyr weld a dewis pethau i’r gegin neu i’r stafell ymolchi, fe allan nhw hefyd ddewis lliw y llawr a lliw y teils. 

Yn ogystal, fe allan nhw weld safon a ddisgwylir o’r Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

‘Y syniad o roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned ydi’r prif beth,” meddai Ffrancon Williams, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd, wrth egluro pam mae bath a chegin ar y stondin yng Nglynllifon.

“Rydan ni am ddangos y safon sy’n bosib ei ddisgwyl o dai’r gymdeithas, ac rydan ni eisiau gadael i bobol wybod ein bod am wella’r tai yn y gymuned.”