John Glyn Jones
Mae pobol Sir Ddinbych bron â chyrraedd hanner ffordd wrth godi arian at brifwyl 2013, meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, John Glyn Jones.

Mae’r ardal bellach wedi codi £120,000 o’r cyfanswm o £300,000 sydd angen er mwyn cynnal yr wyl ar dir Kilford ger Dinbych yn ystod wythnos gynta’ mis Awst y flwyddyn nesa’.

Ond yr hyn sydd wedi codi calon John Glyn Jones, meddai, ydi’r ffordd y mae pobol o bob oed wedi bwrw iddi yn eu ffordd eu hunain i gynnal gweithgareddau.

“Rydan ni wedi cael rasus hwyaid, rhostio mochyn, cyngherddau, gigs Bryn Fôn a Gwibdaith Hen Frân, ocsiwn addewidion, noson efo Hogia’r Wyddfa a Dafydd Iwan… mae yna amrywiaeth fawr o bethau wedi’u cynnal.

“Mae yna dipyn o frwdfrydedd, a dw i’n falch iawn o weld rhai ifanc yn dod i mewn i drefnu a chodi pres,” meddai John Glyn Jones wedyn. “Maen nhw’n bobol na chawson ni mohonyn nhw y tro dwytha’, ond maen nhw’n weithwyr caled.”

Fe fydd Stomp yn cael ei chynnal yn Ninbych ar nos Wener, Mehefin 22, cyn y bydd Gorsedd y Beirdd yn gorymdeithio trwy Ddinbych ar y Sadwrn dilynol ac yn Cyhoeddi gwyl 2013 yng nghylch cerrig y dre’.