Aled Sion
Mae Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd yn “aros i weld” a fydd trafferthion traffig bore Llun yn eu datrys eu hunain.

Wrth annerch cynhadledd y wasg am 10 o’r gloch heddiw, roedd Aled Sion yn ymateb i’r ffaith fod rhai eisteddfodwyr sy’n cyrraedd safle coleg Glynllifon, ar gwr priffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli, wedi  cymryd awr i deithio ychydig filltiroedd at y Maes.

“Y cyfan alla’ i ddweud ar hyn o bryd ydi fod y cynllun traffig wedi ei gytuno rhwng yr Urdd, yr heddlu a Chyngor Gwynedd,” meddai.

“Dw i’n deall fod yna dagfeydd yn ôl i bentre’ Bontnewydd ac i gylchfan Inigo Jones (ger Pen-y-groes)… Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ni ddisgwyl i weld sut aiff hi.

“Rydyn ni’n disgwyl rhwng 15,000 ac 20,000 o bobol i ddod i’r Maes heddiw, felly mae disgwyl nifer o geir. Gawn ni weld os y bydd problemau bore Llun yn cael eu datrys.”

Sut i gyrraedd Glynllifon

Mae gyrwyr o gyfeiriad Porthmadog (yr A487) yn cael eu cyfeirio i lawr Lon Cefn Glyn, wrth droi i’r chwith ar gylchfan ger pentre’r Groeslon.

Mae gyrwyr o gyfeiriad Caernarfon i gario yn eu blaenau oddi ar gylchfan Llanwnda, a chymryd yr A499, sy’n mynd â nhw reit i geg y ffordd sy’n arwain i Faes yr eisteddfod.