Bryn Terfel
Llywydd y Dydd heddiw ydi’r canwr opera, Bryn Terfel – ond dydi o ddim yn gallu bod yn yr eisteddfod. Mae wedi anfon neges fideo o Bergen, Norwy, lle mae’n ymarfer ei opera nesa’.

“Mae’n siom enfawr i mi na fedra’ i fod ar y Maes yng Nglynllifon,” meddai Bryn Terfel, sy’n byw o fewn dwy filltir i’r safle, ar gyrion pentref Y Bontnewydd.

“Mae gen i ddyled fawr i fudiad yr Urdd ac i’r eisteddfod, ac mae’n ffordd arbennig o feithrin hyder a thalent ymysg pobol ifanc.

“Fy neges i, i’r rheiny sy’n ennill, ydi llongyfarchiadau ac ewch yn eich blaenau,” meddai wedyn. “Ond i’r rhai sy’n colli ac yn methu â chyrraedd y llwyfan, cariwch ymlaen, fe ddaw cyfle arall.

“Mwynhewch y cynulleidfaoedd a’r gwmnïaeth yng Nglynllifon.”