Aeron Jones yn stiwardio
Tybed a ydych chi’n nabod y stiward hwn? Dyma’r stiward cynta’ welwch chi wrth i chi droi oddi ar briffordd yr A499 am faes parcio Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Aeron Jones, cynghorydd Llais Gwynedd ward Llanwnda ar Gyngor Gwynedd, ydi o, efo chwiban yn ei geg, yn ddillad melyn o’i ben i’w draed, ac mae wedi bod wrthi ers cyn 7 o’r gloch y bore yn cyfeirio traffig i mewn ac allan trwy’r twll yn wal fawr Glynllifon.

Mae’n rhan o dîm Pwyllgor Pentref Rhostryfan, sy’n gyfrifol am waith stiwardio’r maes parcio trwy gydol yr wythnos eleni.