Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanarth dydd Sadwrn, Hydref 2ail yn Neuadd y Pentref.  Roedd y neuadd yn orlawn ar gyfer yr adran leol, ond siomedig iawn oedd nifer y gynulleidfa yn yr hwyr, er i safon y cystadlu fod yn arbennig o uchel.

Llywydd yr Eisteddfod eleni oedd Mrs Isabel Jones o Lanarth. Un o Lanarth yw Isabel ac wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i bopeth lleol. Cafwyd ganddi araith ddiddorol dros ben a diolchwn yn fawr iddi am y rhodd haelionus iawn i’r Eisteddfod. Braf oedd cael ei phresenoldeb yn yr Eisteddfod am ran helaeth o’r diwrnod, ynghyd a’i merch a’i hwyres.

Beirniaid yr Eisteddfod am eleni oedd: Llên a Llefaru – Mrs Ann Fychan o Abercegir a chloriannwyd adran y gerddoriaeth gan Mrs Rhiannon Lewis o Genarth. Dyfarnwyd y gwaith celf gan Mrs Nest Thomas o Lanarth a chyfeiliwyd gan Mrs Lynne James o Gastell Newydd Emlyn.  Rhannwyd y gwaith o arwain yr Eisteddfod gan y canlynol – Angharad John, (Prifathrawes),  Catrin Bellamy Jones, Alun Williams ac Alan Thomas.

Enillwyd cadair yr Eisteddfod, a wnaed  gan Aled Dafis, Caerwedros gan  Anys Wood o Ysgol Bro Tawe, Abertawe. Yr oedd seremoni’r Cadeirio yng ngofal Ann Fychan. Cyrchwyd yr enillydd i’r llwyfan gan Angharad Evans a Rhys Jones a hwy hefyd wnaeth gyfarch y bardd ifanc. Braf iawn yw gweld ieuenctid yr ardal yn cymryd at y rhannau arweiniol yn y seremoni yma.

Hoffai’r Pwyllgor gydnabod cymorth y gwragedd a fu’n glanhau a pharatoi’r Neuadd a gofalu am y lluniaeth gydol y dydd a’r stiwardiaid fu ar y drws. Diolch i’r canlynol am noddi’r Eisteddfod eleni – Cyngor Sir Ceredigion a Chronfa Pantyfedwen. Mae ein diolch yn fawr hefyd i Brifathrawes a Staff ysgol Llanarth am eu gwaith caled yn paratoi’r holl blant ar gyfer yr Adran Leol.  Llawer o ddiolch i’r rhai a fu’n helpu i gynnal yr Eisteddfod, ac os hoffech wirfoddoli i helpu yn Eisteddfod blwyddyn nesaf, boed yn y drws, neu yn helpu yn y gegin, croeso i chi roi eich enwau i Nerys ar 01545 580117. Byddem fel pwyllgor yn falch iawn o dderbyn bob help er mwyn ysgafnhau’r baich ar y gwirfoddolwyr presennol.  Dyma’r canlyniadau:-

Lleol: Canu

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
– Dosbarth Derbyn Cordelia Lowri Ellamay
Blwyddyn 1 Lucy Katie Heini
Blwyddyn 2 Esme Daniel Rebecca
Blwyddyn 3 Isabel Fflur Joshua
Blwyddyn 4 Ela Hefin Georgia
Blwyddyn 5 Cameron Maisie Molly
Blwyddyn 6 Ela Rachel Jax
Parti Canu Fronwen Tegfan Gwynfryn
Tarian Jayne Evans Dewi Ella  

 

Llefaru

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
– Dosbarth Derbyn Cordelia Lowri Ellamay
Blwyddyn 1 Katie Sara Cai
Blwyddyn 2 Esme Bethan Rebecca a Katie
Blwyddyn 3 Isabel Bruce Moli
Blwyddyn 4 Hefin Ela Seren a Celin
Blwyddyn 5 Molly Deian Stephanie
Blwyddyn 6 Ffion Naim Dewi

 

Arlunio

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
– Dosbarth Derbyn Ellamay Erin a Nia Olivia
Blwyddyn 1 Cai Tamzin Heini
Blwyddyn 2 Sarah Katie Bethan
Blwyddyn 3 Lili Rivka Chloe
Blwyddyn 4 Jamie Lee Seren Ettienne
Blwyddyn 5 Molly Maisie Dafydd
Blwyddyn 6 Dewi Ela Jax

 

Enillwyd cwpan  Siân a Nia Henson am y cystadleuwyr gyda’r nifer fwyaf o bwyntiau yn yr Adran Leol gan Molly Grainger a Dewi Morris.

ADRAN AGORED – CANU

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
dan 6 oed Sara Evans,Tregaron Glesni Haf, Llanddeiniol Mari Olwen, Felinfach
6 – 8 oed Siwan George, Lledrod Pheobe Salmon, Dinas  
8 – 10 oed Sara Louise Davies, Synod Ella Evans, Felinfach Enfys Morris, Llanddeiniol
10 – 12 oed Elen Lois, Llwyncelyn Nia Lloyd, Maenclochog Tomos Salmon, Dinas
Piano dan 12 Nest Jenkins, Lledrod Megan Teleri Davies, Llanarth Elin Davies, Cwmsychpant
Canu Emyn dan 12 Elen Lois Nest Jenkins Tomos Salmon
Cerdd Dant dan 12 Megan Teleri Davies Hannah Davies, Pencader Tomos Salmon
Alaw werin dan 12 Elen Lois Tomos Salmon a Nest Jenkins Ella Evans
Unawd dan 16 Blythe Ann, Maenclochog Lowri Elen Jones, Llambed  
Cerdd Dant dan 16 Lowri Elen Jones    
Canu emyn 12 – 16 Blythe Ann Lowri Elen Jones  
Alaw werin 12 – 16 Lowri Elen Jones Blythe Ann  
Unrhyw offeryn cerdd dan 18 Nest Jenkins Daniel Aldritt, Llanrhystud Blythe Ann
Unawd dan 21 Blythe Ann    
Her Unawd dan 30 Blythe Ann    

 

Yr ymgeisydd mwyaf addawol dan 12 oed yn yr Adran Gerddoriaeth – Nest Jenkins, Lledrod

LLEFARU

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
dan 6 oed Aled Lloyd Glesni Haf Sara Evans
6 – 8 oed Pheobe Salmon Siwan George  
8 – 10 oed Hannah Davies Megan Teleri Davies Sara Louise
10 – 12 oed Nest Jenkins Tomos Salmon Elen Lois a Nia Lloyd
Dan 16 Lowri Elen Blythe Ann  
Llefaru dan 21 Blythe Ann    

 

Yr ymgeisydd mwyaf addawol dan 12 oed yn yr Adran Lefaru – Nest Jenkins, Lledrod.

LLENYDDIAETH

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
  Cadair – Gwobr Llenyddiaeth yr Ifanc Anys Wood, Ysgol Bro Tawe, Abertawe    
Stori Cynradd Megan Teleri Davies, Llanarth Dewi Morris, ysgol Llanarth Ffion Church, ysgol Llanarth
Poster dan 16 Elisa Evans,Dyffryn Teifi Beth Davies, Dyffryn Teifi Megan Teleri Davies
Llawysgrifen dan 12 Megan Teleri Davies Ela Bryan,ysgol Llanarth Stephanie Spatz, ysgol Llanarth
Llawysgrifen dan 16 Summer Mayes, Dyffryn Teifi Nia Currado,Dyffryn Teifi a

Guto Harvard, Penweddig

Megan Wyn Evans, Dyffryn Teifi a Megan Jones, Dyffryn Teifi