Gorymdaith ac Archdderwydd newydd i gyhoeddi prifwyl 2020

Diweddarwyd  

Myrddin ap Dafydd

Llun: Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Bydd seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2020 yn cael ei chynnal yn Aberteifi heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 29).

Bydd y brifwyl yn dod i Dregaron  ym mis Awst y flwyddyn nesaf, ond bydd Myrddin ap Dafydd yn cychwyn ar ei dymor yn Archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.

Mae disgwyl cannoedd yn y seremoni yn Aberteifi, lle bydd y Archdderwydd newydd hefyd yn cymryd yr awenau’n swyddogol.

Bydd Eisteddfod 2020 yn cael ei chynnal ar gyrion y dref ar Awst 1-8.

Yn ôl y traddodiad rhaid cynnal y seremoni o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn dechrau’r Eisteddfod.

Yn y seremoni fe fydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones, yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau.

Bydd y gweithgareddau’n dechrau ar gaeau chwarae Ysgol Uwchradd Aberteifi am 11yb, a hynny’n dilyn gorymdaith sy’n cychwyn o’r caeau am 10.15yb.

Eisteddfodau

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn