Cafodd y pump a fydd yn cystadlu am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel eu cyhoeddi neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 1).

Cafodd y chwe chystadleuydd mwyaf addawol yn y categori oedran hŷn o dan 25 oed eu dewis ar ôl diwrnod o gystadlu yn y pafiliwn.

Y cystadlaethau sy’n gymwys yw’r Unawd Alaw Werin 19-25 oed, Unawd Cerdd Dant 19-25 oed, Unawd 19-25 oed, Unawd Offerynnol 19-25 oed, Llefaru Unigol 19-25 oed, Cyflwyniad Theatrig 19-25 oed, Unawd Allan o Sioe Gerdd 19-25 oed, Dawns Unigol i Fechgyn 14-25 oed a Dawns Unigol i Ferched 14-25 oed.

Y rhai a ddaeth i’r brig yw Rhydian Jenkins (Aelod Unigol Cylch Ogwr, Morgannwg Ganol), Cai Fôn Davies (Aelod JMJ, Eryri), Steffan Lloyd Owen (Aelod Unigol, Cylch Cefni, Ynys Môn), Daniel Jones (Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd a’r Fro), Thomas Mathias (Aelod Unigol Cylch Aberystwyth, Ceredigion),  a Morgan Llywelyn Jones (Aelwyd y Gwendraeth, Gorllewin Myrddin).

Cawson nhw eu dewis gan Jeremy Huw Williams, Ffion Dafis, Einir Wyn Jones, Cerian Mai Phillips a Glain Dafydd.

“Mae wedi bod yn brofiad ac yn broses bleserus gwylio’r fath dalent ond roedd y chwe pherfformiwr yma yn serennu a hynny yn y modd roeddent yn cyfathrebu â’u cynulleidfa ac oherwydd i ni gael ein cyffroi,” meddai’r panel.

Yr Ysgoloriaeth

Mae’r Ysgoloriaeth yn cael ei chynnal ar nos Wener, Hydref 11 yn Neuadd Goffa’r Barri.

Ei nod yw meithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau Cymru.

Eleni, i nodi 20 mlynedd ers sefydlu’r ysgoloriaeth, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r Urdd yn cyhoeddi elfen ryngwladol newydd.

Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2020, bydd enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019 yn perfformio yn un o’r dathliadau byd-eang ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2020.