Mae Aelod Cynulliad Arfon wedi datgan ei chefnogaeth i gais Caernarfon i gael cynnal “eisteddfod ddi-ffiniau heb dâl mynediad” yn y dref yn 2021.

Dyw hi ddim yn glir eto a yw prifwyl felly ar y cardiau – yn enwedig wedi cyhoeddiad Cyngor yr Eisteddfod fis diwethaf bod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym mis Awst eleni wedi gwneud colled o £290,000.

Mae cyfarfod cyhoeddus wedi’i gynnal yn nhref Caernarfon ers hynny, a diddordeb wedi’i fynegi mewn cynnal y ‘Maes’ o gwmpas y castell sy’n Safle Treftadaeth y Byd.

“Byddai cynnal yr Eisteddfod yng Nghaernarfon yn rhoi cyfle i bobol o bob man drochi eu hunain yn y diwylliant a’r iaith am wythnos gyfan a mwynhau’r holl elfennau mae’r ŵyl yn eu cynnig,” meddai Sian Gwenllian.

“Yn benodol, gweledigaeth y Cyngor Tref yw cynnal Eisteddfod led-debyg i’r un a fu yng Nghaerdydd eleni – hynny yw, eisteddfod agored, ddi-ffiniau a chynhwysol, i’w lleoli’n bennaf ar strydoedd y dref heb dâl mynediad cyffredinol.

“Mae’r dref eisoes wedi dangos ei gallu i gynnal digwyddiadau mawr o’r fath yn sgil yr Ŵyl Fwyd hynod lwyddiannus sydd wedi’i threfnu yno ers rhai blynyddoedd bellach.  Credaf y gallai cynnal Eisteddfod agored yng Nghaernarfon fod o fudd mawr nid yn unig i’r Gymraeg yng Ngwynedd ond hefyd i sefyllfa’r iaith yng Nghymru benbaladr.”