Mae grŵp sy’n bwriadu trefnu eisteddfod leol yng Nghaerdydd yn ystyried yr opsiwn o wneud y digwyddiad yn un “symudol”.

Daeth tuag ugain o bobol ynghyd neithiwr (dydd Llun, Medi 24) ar gyfer cyfarfod yn Ysgol Uwchradd Plasmawr er mwyn trafod y syniad o sefydlu eisteddfod yn y brifddinas.

Mae’r syniad yn deillio o lwyddiant y brifwyl ym Mae Caerdydd eleni, a’r nod yw cynnal yr eisteddfod gyntaf mewn lleoliad yn y brifddinas ddiwedd mis Ionawr 2020.

‘Eisteddfod i Gaerdydd gyfan’

“Rydan ni’n gobeithio y bydd hi mewn lleoliad eitha’ canolog,” meddai Glenys Llewelyn, a alwodd am y cyfarfod, wrth golwg360.

“Be ydan ni’n ymwybodol ohono ydy bod angen lle i barcio, bod angen gofod eithaf mawr.

“Ond mae yna lu o syniadau wedi cael eu taflu i mewn i’r pair. Rydan ni hefyd yn ystyried y syniad o symud [yr eisteddfod] i wahanol ardaloedd o’r brifddinas bob blwyddyn.

“Er enghraifft, ei chynnal hi mewn ysgolion uwchradd fel Ysgol Plasmawr un flwyddyn, Glantaf, Bro Edern ac efallai symud ymlaen i’r ysgolion di-Gymraeg yn nes ymlaen…

“Mae hefyd y syniad o gynnal yn Neuadd y Ddinas, neu hyd yn oed Neuadd Dewi Sant.”

“Llu o syniadau”

Ond cyn y bydd lleoliad yn cael ei bennu, meddai Glenys Llewelyn wedyn, bydd angen penderfynu ar fformat yr eisteddfod ac ystyried beth sy’n addas i Gaerdydd.

“Roedd yna griw bach da wedi troi i fyny [neithiwr] efo llwyth o syniadau,” meddai.

“Fe wnaethom ni drafod eisteddfod dridiau, eisteddfod gadeiriol, eisteddfod fach leol, eisteddfod ieuenctid ac eisteddfod gorau.

“Dydyn ni ddim yn gwybod beth fyd yr alw a beth fydd yr ymateb chwaith petai ni’n trefnu eisteddfod…”

Bydd cyfarfod pellach yn cael ei gynnal ar Hydref 23, gyda’r lleoliad eto i’w gadarnhau.