Mae Bardh Meur Cernyw wedi galw ar y BBC i roi’r un tegwch i Gernyw a’r Gernyweg ag y mae’r Gymraeg yn ei chael yng Nghymru a’r Aeleg yn ei chael yn yr Alban.

Cafodd neges Merv Davey, arweinydd Gorsedh Kernow (Gorsedd Cernyw), ei hategu yn ystod araith uniaith Gymraeg gan Hywel Wyn Edwards, oedd yn cynrychioli Cymru yn yr Esedhvos (Eisteddfod) flynyddol yn Tewynblustri (Newquay).

Dechreuodd y dathliad blynyddol o ddiwylliant Cernywaidd ddydd Mercher, ac mae’n dod i ben yfory (dydd Sul).

Dyma’r tro olaf y bydd y Bardh Meur, Telynyo r an Weryn (Merv Davey) yn arwain y Gorsedh.

Digwyddiadau

Dechreuodd yr Esedhvos ddydd Mercher, gyda’r digwyddiadau’n cynnwys sgyrsiau gyda nifer o lenorion mawr y Gernyweg.

Mae nifer o lyfrau newydd wedi’u lansio yn ystod yr wythnos, gan gynnwys cyfrol am feirdd Cernyw a Geiriadur y Gernyweg i Ddysgwyr.

Fe fu cyfle hefyd i’r cyhoedd weld y Gadair, ynghyd ag arddangosfa o weithiau llenyddol plant a phobol ifanc Cernyw, a noson wobrwyo yng nghwmni’r cerddor Jon Cleave (aelod o’r band Fisherman’s Friends) a’r Bardh Meur.

Cynhadledd ar ddyfodol y diwylliant Cernyweg

Sgwrs y gynhadledd undydd flynyddol eleni yw “Archwilio Asedau Diwylliannol Cernyw”.

Dywedodd y Bardh Meur, Merv Davey, “Mae diwylliant amlwg Cernyw yn ased enfawr sy’n effeithio ar iechyd a lles economaidd ein cymuned ac mae’n bryd nawr i Gernyw gymryd rheolaeth dros ei thynged ddiwylliannol ei hun a manteisio ar y cyfleoedd y mae hyn yn eu cynnig.

“Ar achlysur ein pen-blwydd yn 90 eleni, rydym unwaith eto wedi trefnu ystod drawiadol o siaradwyr ar gyfer ein Cynhadledd.”

Seremoni’r Beirdd

Un o uchafbwyntiau’r Esedhvos eleni yw’r seremoni flynyddol i dderbyn aelodau newydd i’r Gorsedh, a honno wedi’i chynnal am 2 o’r gloch heddiw.

Cafodd 16 o feirdd newydd eu derbyn a’u hanrhydeddu am eu cyfraniad i fywyd a diwylliant Cernyw.

Ac roedd y seremoni hefyd yn gyfle i groesawu’r Bardh Meur newydd, Elizabeth Carne, sy’n cael ei hadnabod wrth yr enw barddol Melennek.

Pol Hodge yw’r dirprwy Bardh Meur newydd, sy’n cael ei adnabod wrth yr enw barddol Mab Stenak Vur.

Ychwanegodd Merv Davey, “Rydym yn ddiolchgar iawn y cymorth a gawsom. Mae pawb mor brysur y dyddiau hyn ond mae aelodau’r gymuned leol yn deall diwylliant unigryw ac amlwg Cernyw a phwysigrwydd ei gynnal.”

Y beirdd newydd

O blith yr 16 aelod newydd sydd wedi’u derbyn i’r Gorsedh eleni, mae wyth sy’n byw y tu allan i Gernyw. Byddan nhw’n ymuno â’r 500 aelod presennol.

Ar drothwy’r seremoni, dywedodd y Bardh Meur, Merv Davey, “Mae cael eich derbyn yn fardd yn anrhydedd o’r mwyaf, yn enwedig am fod y seremoni’n cael ei chynnal gerbron aelodau o Gorsedh Kernow, yn ogystal â chynrychiolwyr o’n chwaer-wledydd Celtaidd, Cymru a Llydaw, sefydliadau Cernywaidd eraill a ffrindiau a theuluoedd sy’n cefnogi Gorsedh Kernow, sy’n dod ynghyd ar yr achlysur arbennig hwn i ddathlu ein diwylliant Cernyweg arbennig.

Pobol o’r Unol Daleithiau, Awstralia, Seland Newydd a Chanada yw hanner yr aelodau newydd.

Yr aelodau newydd yw:

Nick Bartle o Wellington, Seland Newydd am ei wasanaeth i hunaniaeth Gernyweg yn Seland Newydd, a’i waith gyda Chymdeithas Gernyweg Seland Newydd.

Dave Brotherton o Borth Iâ (St. Ives) am ei wasanaeth i gerddoriaeth Gernyweg a chyd-sylfaenydd Tir ha Tavas, Bagas Porthia a’r St Ives Guisers.

Jean Charman o Kammbronn (Camborne) am ei gwasanaeth i dreftadaeth Cernyw a’r Gernyweg ym Mecsico, ac fel cynghorydd tref

Dick Cole, arweinydd plaid wleidyddol Mebyon Kernow o Truru (Truro) am ymgyrchu o blaid diwylliant a daearyddiaeth Cernyw.

Jane Darke o Lannwedhenek (Padstow) am ei gwasanaeth i greu ac ysgrifennu ffilmiau a’i gwaith archifo a gwaith addysg, gan gynnwys hyrwyddo ffilmiau ei diweddar ŵr Nick.

Mark Elton o Twickenham, drwy arholiad yn y Gernyweg ac am ei waith yn hyrwyddo Dydd San Piran yn Llundain.

Malcolm Gould o Logsulyan (Luxulyan) am ei wasanaeth i hanes diwydiannol Cernyw, gan gynnwys Amgueddfa Glai China Cernyw.

Darren Hawken o Restheudi (Tideford) yn Essa (Saltash) am ei wasanaeth i gerddoriaeth Gernyweg.

Margaret Johnson o Dde Awstralia am ei gwasanaeth i hunaniaeth Gernyweg yn Ne Awstralia, a hithau’n aelod o gôr sy’n canu mewn digwyddiadau llenyddol, gan gynnwys Kernewek Lowender.

Jan Lokan o Dde Awstralia am ei gwasanaeth i hunaniaeth Gernyweg yn Ne Awstralia, a hithau’n aelod o bwyllgor gwaith Kernewek Lowender.

Peter Meanwell o Bosvena (Bodmin) am ei wasanaeth i gerddoriaeth Gernyweg, ac yntau’n ymchwilio i hanes cerddoriaeth Cernyw ar ran côr y Washaway Gallery.

Jane Nancarrow o Lannstevan (Launceston) am ei gwasanaeth i lenyddiaeth Cernyw, a hithau’n berfformwraig lenyddol.

Jonny Nance o Ddyfnaint am ei wasanaeth i ddiwylliant morwrol Cernyw, ac yntau’n adeiladu cychod ar gyfer Porth Iâ.

Richard Damian Nance o Connecticut, UDA, am ei wasanaeth i ddiwylliant Cernyweg yn yr Unol Daleithiau, ac yntau’n ddaearegwr sy’n arbenigo yn naeareg Cernyw.

Glen Ridnour o Wisconsin am ei wasanaeth i ddiwylliant Cernyw yn yr Unol Daleithiau.

Carole Roberts o Vancouver yng Nghanada am ei gwasanaeth i hunaniaeth Gernywaidd yng Nghanada.