Gydag wythnos yn unig i fynd tan agoriad swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, mae ymdrech fawr ar waith i baratoi’r brifddinas gyfan ar gyfer y brifwyl.

Mae baneri’r Bae bellach i’w gweld ledled y ddinas, ac erbyn hyn mae arwyddion o groeso wedi’u gosod yn drwch yn ardal Pontcanna.

Yn yr honno o’r ddinas y bydd maes carafanau’r sioe, ac mae’r enwog Gaeau Pontcanna yn llawn ffensys a chyfarwyddiadau yn barod i dderbyn eisteddfodwyr.

Baner ar Heol y Gadeirlan

Y bae

Er bod pethau’n dechrau prysuro yng ngweddill Caerdydd, mae tipyn o waith trawsnewid ar ôl i’w wneud yn y Bae.

Mae adeilad y Senedd gam yn agosach at droi’n Lle Celf – oriel gelf y brifwyl – ac mae darnau o waith mewn pecynnau i’w gweld yno.

Hefyd, mae’r gwaith o godi Tŷ Gwerin ar ei hanner gyferbyn â’r Eglwys Norwyaidd, ac mae tipyn yn rhagor o stondinau ar fin cael eu gosod o flaen Canolfan y Mileniwm.

Stondin ger Canolfan y Mileniwm
Tŷ Gwerin
Plass Roald Dahl
Stondinau Adeilad Pierhead
Y Lle Celf (yng nghefn y Senedd)