Bydd cyfarfod cyhoeddus  yn cael ei gynnal ddiwedd y mis, i drafod gwahodd Eisteddfod yr Urdd i Sir Gaerfyrddin.

Bydd y cyfarfod yn Drefach ger Crosshands, gydag aelodau o gyrff lleol, ynghyd â swyddogion yr Urdd, yn cymryd rhan.

Mae trafodaethau wedi dechrau rhwng yr Urdd a phwyllgorau rhanbarth y sir, ac mae’r pwyllgorau eisoes wedi cytuno mewn egwyddor i wahodd yr Eisteddfod yn 2021.

Bwriad y cyfarfod yma yw ennill cefnogaeth y gymuned yn ehangach.

“Cefnogaeth”

“Y tro diwethaf i’r Eisteddfod ymweld â’r ardal yn 2007 cafwyd wythnos lwyddiannus tu hwnt,” meddai Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn.

“Drwy gynnal y cyfarfod hwn rydyn ni’n gobeithio sicrhau cefnogaeth yr ardal gyfan – yn gymdeithasau, mudiadau, sefydliadau ac unigolion – i wahodd Eisteddfod yr Urdd i Sir Gaerfyrddin unwaith eto.”

Bydd y cyfarfod yn Neuadd y Gwendraeth ar Fehefin 25 am 7yh.