Enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed 2018 yw Rebecca Morgan.

Athrawes Gymraeg ail iaith yw Rebecca Morgan, 24, sy’n dysgu yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd.

Mae’n hanu o deulu di-Gymraeg ym Mhen-coed, Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae ganddi radd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg o Brifysgol Abertawe.

Mae’n dweud ei bod hi’n “wrth ei bodd” yn ysbrydoli ei disgyblion, a’n dysgu bod y Gymraeg o fudd iddyn nhw wrth chwilio am yrfa.

Ei nod yw esgyn i rôl pennaeth adran y Gymraeg, â pharhau a’i gwaith dysgu.