Bydd tocynnau ar gyfer rhagor o weithgareddau’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn mynd ar werth yfory (8 Mai).

Dywed yr Eisteddfod bod disgwyl galw mawr am docynnau i’r sioe a’r perfformiadau sy’n cael eu rhyddhau ddydd Mawrth.

Gan fod Eisteddfod Caerdydd yn ŵyl drefol ac arbrofol, mae’r trefnwyr yn defnyddio cymysgedd o adeiladau parhaol y Bae a strwythurau dros dro, gan “deilwra gwahanol weithgareddau ar gyfer gofodau addas”. Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal o 3-11 Awst.

“Arbrofi”

Meddai Elen Elis, trefnydd a phennaeth artistig yr Eisteddfod: “Gyda thri mis yn unig i fynd tan yr ŵyl, mae’n braf iawn cyhoeddi rhagor o weithgareddau artistig Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.  Rydym yn arbennig o falch o’r amrywiaeth a safon y sioeau a’r perfformiadau sydd i’w gweld mewn nifer o leoliadau o amgylch y Bae eleni, a’r gobaith yw ein bod wedi llwyddo i gynnwys rhywbeth sy’n mynd i apelio at bawb.

“Mae’r cyfle i gael y rhyddid i arbrofi gyda gwahanol ofodau ac i ystyried y defnydd o leoliadau parhaol a thros-dro wedi bod yn gyffrous, ac wedi ein galluogi ni i edrych eto ar sut ydan ni’n rhaglennu a chyflwyno ambell beth.  Gobeithio y bydd y gynulleidfa hefyd yn gweld hyn ac yn mwynhau’r profiad gwahanol eleni ym Mae Caerdydd.

“Erbyn hyn, mae’r dyddiad cau olaf wedi pasio a’r gwaith o greu’r rhaglen lwyfan yn cychwyn.  Mae niferoedd cystadleuwyr yn galonogol iawn, gyda’r cyfle i berfformio i gynulleidfa genedlaethol ar lwyfan enwog y Pafiliwn yn Theatr Donald Gordon wedi bod yn dynfa sicr i nifer mawr.”

Bandiau garddwrn 

Bydd bandiau garddwrn ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru hefyd yn mynd ar werth yfory.  Bydd angen band garddwrn er mwyn mynychu sesiynau dydd yn y Ganolfan, er mwyn galluogi’r Eisteddfod i gadw at amodau iechyd a diogelwch yr adeilad.  Mae modd archebu’r rhain ymlaen llaw am bris gostyngol tan 30 Mehefin.

Tocynnau ar werth ar-lein, www.eisteddfod.cymru, o 08.30 ymlaen ar 8 Mai, ac ar y llinell ffôn, 0845 4090 800 o 10:00 ymlaen.