Fydd yr hanesydd a’r newyddiadurwr, Gwyn Griffiths, ddim yn derbyn ei Wisg Werdd yn ystod wythnos gyntaf Awst eleni. Bu farw ddechrau’r wythnos hon.

Ond fe fydd ei gyfraniad i fyd cyfieithu llenyddiaeth Gymraeg i’r Llydaweg, ynghyd â’i waith mawr yn creu cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw, yn cael eu hanrhydeddu yn ystod y seremoni fore Gwener, Awst 10.

Cyfieithydd arall a fydd yn cael ei derbyn i’r Wisg Werdd fydd Marie-Thérèse Castay, am ei gwaith yn trosi gweithiau llenyddol Cymraeg i’r Ffrangeg.

Fe fydd yna wisg hefyd i Don Llewellyn am ei waith ym maes y cyfryngau, ac fel lladmerydd dros y Gymraeg yn ei gymuned a’r Wenhwyseg.

Dau academydd sy’n cael eu hanrhydeddu eleni yng Nghaerdydd yw Cynfael Lake o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe; a Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Fe fydd gwisg hefyd i Robert Evans, arweinydd gweithgareddau Cymraeg yn Rhydychen. Cyn-Lywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym a Chymrawd Emeritws yng Ngholeg Oriel.

Ac, am ei waith yntau yn hybu’r Gymraeg ymysg dysgwyr yng nghanolbarth Lloegr, fe fydd Jonathan Simcock yn dod yn aelod o’r Orsedd.